1Mab gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i’r Arglwydd dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.
10A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i’r gist, nes gorffen ohonynt.
11A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a’i chymryd hi, a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer.
12A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr Arglwydd; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr Arglwydd.
13Felly y gweithwyr a weithiasant, a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a’i cadarnhasant ef.
14A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.
15Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw.
16A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at Dduw a’i dŷ.
17Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.
18A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a’r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn.
19Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr Arglwydd; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy.
20Ac ysbryd Duw a ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.
24Canys llu y Syriaid Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.
27Am ei feibion ef, a maint 2 Bren 12:18y baich a roddwyd arno, a sylfaeniad tŷ Dduw, wele hwy yn ysgrifenedig yn hanes llyfr y brenhinoedd. Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.