1 Corinthiaid 11 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 59. —1 Y mae efe yn eu ceryddu hwy, 4 am fod eu gwŷr yn y cynulleidfaoedd sanctaidd yn gweddïo a pheth am eu pennau, 6 a’u gwragedd yn bennoeth: 17 ac o ran eu bod hwy yn gyffredin yn cyfarfod, nid er gwell ond er gwaeth; 21 gan halogi swper yr Arglwydd â’u gwleddoedd eu hunain. 23 Yn ddiwethaf, y mae efe yn eu galw hwy yn eu hôl, at ordinhad cyntaf y swper hwnnw.

1 awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion.

11Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig, na’r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd.

12Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr, felly y mae’r gŵr trwy’r wraig: a phob peth sydd o Dduw.

13Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth?

14Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo?

15Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi.

16Od ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth.

18Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu.

19Canys nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn.

21Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw.

22Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.

23Canys Pen 15:3myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Mat 26:26; Marc 14:22; Luc 22:19Bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara:

24Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.

25Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf.

26Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd Ioan 14:3; Act 1:11oni ddelo.

27Num 9:10, 13; Ioan 6:51, 63, 64; 13:27; Pen 10:21Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd.

28Eithr 2 Cor 13:5; Gal 6:4holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan.

29Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd.

30Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno.

31Canys Salm 32:5pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid.

32Eithr pan y’n bernir, Salm 94:12, 13; Heb 12:5–11y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd.

33Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd.

34Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help