Eseia 10 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Gwae y rhai trawsion. 5 Assyria, gwialen rhagrithwyr, am ei falchder a dorrir. 20 Yr achubir gweddill o Israel. 24 Cysuro Israel, trwy addo iddynt gael eu gwared oddi wrth Assyria.

1Gwae y rhai Gwae Assur, gŵr grymus:

14A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai.

15A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyrchafai y ffon, fel pe na byddai yn bren.

16Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân.

17A bydd goleuni Israel yn dân, a’i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd:

18Gogoniant ei goed hefyd, a’i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.

19A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.

20A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, i’th erbyn, yn ôl ffordd Exod 14yr Aifft.

25Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a’m digofaint yn eu dinistr hwy.

26Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd 2 Bren 19:35ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Barn 7:25; Pen 9:4Midian yng nghraig Oreb: ac Exod 14:26, 27 fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft.

27A bydd yn y dydd hwnnw, Pen 14:25y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a’i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.

28Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.

29Aethant trwy y 1 Sam 13:23rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; 1 Sam 11:4Gibea Saul a ffoes.

30Bloeddia â’th lef, merch 1 Sam 25:44Galim: pâr ei chlywed hyd Barn 18:7Lais, O Jos 21:18Anathoth dlawd.

31Ymbellhaodd Jos 15:31Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi.

32Eto y dydd hwnnw y saif efe yn 1 Sam 21:1; Neh 11:32Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.

33Wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, yn ysgythru y gangen â dychryn: a’r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a’r rhai goruchel a ostyngir.

34Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn; a Libanus trwy un cryf a gwymp.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help