1Wedi’r pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy tarfai hwynt.
12A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.
13Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, Exod 12:40; Act 7:6y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a Exod 1:11hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd.
14A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny Exod 12:36; Salm 105:37y deuant allan â chyfoeth mawr.
15A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: Pen 25:8ti a gleddir mewn henaint teg.
16Ac yn Exod 12:40y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid.
17A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
18Yn y dydd hwnnw Pen 24:7y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, Pen 12:7; 13:15; 26:4; Exod 23:31; Num 34:3; Deut 1:7; 11:24; 34:4; Jos 1:4; 1 Bren 4:2; 2 Cron 9:26; Neh 9:8; Esa 27:12I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:
19Y Ceneaid, a’r Cenesiaid, a’r Cadmoniaid.
20Yr Hethiaid hefyd, a’r Pheresiaid, a’r Reffaimiaid,
21Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
