1 geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn?
6Wele, hyderaist ar fwynder â mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun;
17Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.
18Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?
19Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i?
20Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw?
21Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.
22Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, â’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
