1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses.
14Exod 29:10Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod;
15Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac Exod 29:36a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni.
16Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwêr; a Moses a’i llosgodd ar yr allor.
17A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel Exod 29:14; Pen 4:11y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
18 Exod 29:15 Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd:
19Ac efe a’i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.
20Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwêr.
21Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel Exod 29:18y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.
22Ac Exod 29:19efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd.
23Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.
24Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.
25Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a’r gloren, a’r holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u braster, a’r ysgwyddog ddeau.
26A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau:
27Ac a roddes y cwbl Exod 29:24 &car ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
28A Moses a’u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd.
29Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: Exod 29:26rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30A Exod 29:21; 30:30chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.
31A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Exod 29:31Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a’r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwyty ef.
32A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân.
33Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd Exod 29:30, 35; Esec 43:25saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi.
34Megis y gwnaeth efe heddiw, y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymod drosoch.
35Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd.
36A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.