Eseciel 42 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Ystafelloedd yr offeiriaid; 13 a’r defnydd a wneid â hwynt. 19 Mesurau y cyntedd nesaf allan.

1Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua’r gogledd; ac a’m dug i’r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua’r gogledd.

2Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain.

3Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i’r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i’r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder.

4Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a’u drysau tua’r gogledd.

5A’r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na’r rhai hyn, na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r adeiladaeth.

6Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r llawr i fyny.

7A’r mur yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd.

8Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain: ac wele, o flaen y deml yr oedd can cufydd.

9Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan.

10O fewn tewder mur y cyntedd tua’r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr ystafelloedd.

11A’r ffordd o’u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r gogledd; un hyd â hwynt oeddynt, ac un lled â hwynt: a’u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt.

12Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua’r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

13Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle du y dwyrain â chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

17Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch.

18Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

20Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, Pen 45:2yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a’r digysegr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help