1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. arloesi’r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ;
37Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a’r olwg arnynt yn is na’r pared;
38Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.
39A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ;
40Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan.
41A phared grafu’r tŷ o’i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o’r tu allan i’r ddinas i le aflan.
42A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ.
43Ond os daw’r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu’r cerrig, ac wedi crafu’r tŷ, ac wedi priddo;
44Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.
45Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a’i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan.
46A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.
47A’r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad.
48Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo’r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla.
49A pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
