Luc 21 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Crist yn canmol y weddw dlawd: 5 yn rhagfynegi dinistr y deml a dinas Jerwsalem; 25 a’r arwyddion a fydd o flaen y dydd diwethaf: 34 ac yn eu hannog hwy i fod yn wyliadwrus. 37 Arfer Crist tra fu yn Jerwsalem.

1Ac wedi iddo edrych i fyny, efe fywyd a oedd ganddi.

5 rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch:

15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, Act 6:10yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll.

16Micha 7:6A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac Act 7:59; 12:2 i rai ohonoch y parant farwolaeth.

17A Mat 10:22chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.

18Mat 10:30Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi.

19Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.

20Mat 24:15; Marc 13:14A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu.

21Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.

22Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, Dan 9:26, 27; 12:7; Sech 11:1i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd.

23Eithr gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.

24A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, Rhuf 11:25hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.

25 Act 2:20; 2 Pedr 3:10, 12 A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr a’r tonnau yn rhuo;

26A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.

27Ac yna y gwelant Fab y dyn Dat 1:7; 14:14yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr.

28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys Rhuf 8:19, 23y mae eich ymwared yn nesáu.

29Mat 24:32; Marc 13:28Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau;

30Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos.

31Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33Mat 24:35Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34Ac Rhuf 13:13; 1 Thess 5:6; 1 Pedr 4:7edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth;

35Canys 1 Thess 5:2; 2 Pedr 3:10; Dat 3:3; 16:15efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear.

36Mat 24:42; Marc 13:33Gwyliwch gan hynny a Pen 18:1gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac Salm 1:5; Eff 6:13i sefyll gerbron Mab y dyn.

37Ioan 8:1, 2A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r Pen 22:39nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.

38A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help