1Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil.
2Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt.
3Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ Dduw, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a’r brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, a yfasant ynddynt.
4Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen.
5Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd.
6Yna y newidiodd lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.
7Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
8Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi i’r brenin ei dehongliad.
9Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar, a’i wedd a ymnewidiodd ynddo, a’i dywysogion a synasant.
10Y frenhines, oherwydd geiriau y brenin a’i dywysogion, a ddaeth i dŷ y wledd: a llefarodd y frenhines, a dywedodd, dad a’i gosododd ef deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad.
13Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda?
14Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol.
15Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o’m blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth.
16Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
17Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r dehongliad a hysbysaf iddo.
18O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.
19Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a’r neb a fynnai a ostyngai.
20Eithr pan mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho:
21gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, yn ddwy flwydd a thrigain oed.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.