Numeri 26 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Cymryd cyfrif o holl Israel yn nyffryn Moab. 52 Cyfraith i gyfrannu etifeddiaeth y tir rhyngddynt hwy. 57 Teuluoedd a rhifedi y Lefiaid. 63 Na adawsid un o’r rhai a rifwyd yn Sinai, ond Caleb a Josua.

1A bu, wedi’r pla, lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,

2Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid:

13O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid.

14Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.

15Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid:

16O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:

17O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.

18Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.

19 Pua, tylwyth y Puhiaid:

24O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.

25Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.

26 Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid.

36A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.

37Dyma dylwyth meibion Effraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.

38 Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid:

39O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffamiaid.

40A meibion Bela oedd, Ard a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid.

41Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.

42 Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd.

43A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.

44 Silem, tylwyth y Silemiaid.

50Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant.

51Edrych Pen 1:46Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.

52A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

53I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau.

54Pen 33:54I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.

55Eto Pen 33:54; Jos 11:23; 14:2wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant

56Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.

57 Gen 46:11; Exod 6:16, 17, 18, 19; 1 Cron 6:1, 16 A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.

58Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram.

59Ac enw gwraig Amram oedd Exod 2:1, 2; 6:20Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.

60A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

61A bu farw Lef 10:2; Pen 3:4; 1 Cron 24:2Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd.

62Edrych Pen 3:39A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.

63Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

64Pen 1; Deut 2:14, 15Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.

65Canys dywedasai yr Arglwydd amdanynt, Pen 14:28, 29; 1 Cor 10:5, 6Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help