1 Cronicl 18 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd yn darostwng y Philistiaid a’r Moabiaid; 3 yn taro Hadareser a’r Syriaid. 9 Tou yn danfon Hadoram ag anrhegion i fendithio Dafydd; 11 ac yntau yn cysegru yr anrhegion a’r ysbail i Dduw; 13 yn gosod amddiffynfeydd yn Edom. 14 Swyddogion Dafydd.

1A Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates.

4A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.

5A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

6A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r Arglwydd a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth.

7A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem.

8Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, â’r hwn y gwnaeth Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba;

10Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.

11Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.

12Ac Abisai mab Serfia a Abimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd;

17Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help