1A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?
2Oni wyddoch chwi y barna’r llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim.
13Mat 15:17; Rhuf 14:17; Col 2:22, 23Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond Ad. 19, 20; 1 Thess 4:3i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff.
14Eithr Rhuf 6:5, 8; 8:11; 2 Cor 4:14Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.
15Oni wyddoch chwi fod Pen 12:27; Eff 4:12, 15, 16; 5:30eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw.
16Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys Gen 2:24; Mat 19:5; Eff 5:31y ddau (medd efe) fyddant un cnawd.
17Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, Ioan 17:21, 22, 23; Eff 4:4; 5:30un ysbryd yw.
18Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
19Pen 3:16; 2 Cor 6:16Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?
20Canys Pen 7:23; Heb 9:12; 1 Pedr 1:18er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
