1Cyfod, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat bennaf, Gal 4:26i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt, Jer 3:17i enw yr Arglwydd dy Dduw, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.
10A Sech 6:15meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaethant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt.
11Am hynny Dat 21:25dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.
12Canys Sech 14:17y genedl a’r deyrnas ni’th wasanaetho di, a ddifethir; a’r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.
13Pen 35:2; 41:19Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd Edrych 1 Cron 28:2; Salm 132:7le fy nhraed.
14A meibion dy gystuddwyr Pen 49:23; Dat 3:9a ddeuant atat yn ostyngedig: a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a’th alwant yn Ddinas yr Arglwydd, yn Seion Sanct Israel.
15Lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau.
16Pen 49:23; 61:6; 66:11, 12Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai Pen 43:3myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob.
17Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn.
18Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi Pen 26:1dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant.
19Dat 21:23; 22:5Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, Sech 2:5a’th Dduw yn ogoniant i ti.
20Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant.
21Pen 52:1Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: Salm 37:11, 22; Mat 5:5etifeddant y tir byth, sef Pen 61:3; Mat 15:13blaguryn fy mhlanhigion, Pen 29:23; 45:11gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder.
22Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.