Lefiticus 22 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Rhaid i’r offeiriaid yn eu haflendid ymgadw oddi wrth y pethau cysegredig. 6 Y modd y mae eu puro hwynt. 10 Pwy yn nhŷ yr offeiriaid a all fwyta o’r pethau cysegredig. 17 Rhaid i’r aberthau fod yn ddianaf. 26 Oedran yr aberth. 29 Y gyfraith am fwyta yr aberth diolch.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi: myfi yw yr Arglwydd.

3Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd.

4Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef.

12A merch yr offeiriad, pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig.

13Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwyta o fara ei thad, wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd, pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.

17A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

18Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, oen a fyddo ddafad, na leddwch hi Deut 22:6a’i llwdn yn yr un dydd.

29A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd, offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain.

30Y dydd hwnnw y bwyteir ef; Pen 7:15na weddillwch ohono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd.

31Cedweh chwithau fy ngorchmynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd.

32Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond Pen 10:3sancteiddier fi ymysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd,

33Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help