Actau’r Apostolion 18 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 54. —1 Paul yn gweithio â’i ddwylo, ac yn pregethu yn Corinth i’r Cenhedloedd. 9 Yr Arglwydd yn ei gysuro ef trwy weledigaeth. 12 Achwyn arno gerbron Galio y rhaglaw: yntau yn cael ei ollwng ymaith; 18 ac wedi hynny yn tramwy o ddinas i ddinas, ac yn nerthu y disgyblion. 24 Apolos, wedi ei ddysgu yn fanylach gan Acwila a Phriscila, 28 yn pregethu Crist gyda nerth mawr.

1Ar ôl y pethau hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Gorinth.

2Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a’i enw gynghorodd yr Iddewon, a’r Groegiaid.

5A phan ddaeth oedd Crist.

6A arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt.

12A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, ac a’i dygasant ef i’r frawdle,

13Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf.

14Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pen 25:11Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi:

15Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a’r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn.

16Ac efe a’u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle.

17A’r holl Roegwyr a gymerasant 1 Cor 1:1Sosthenes yr archsynagogydd, ac a’i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o’r pethau hynny.

18Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i’r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo Num 6:18; Pen 21:24gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned.

19Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a’u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i’r synagog, ac a ymresymodd â’r Iddewon.

20A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe:

21Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Pen 19:21Y mae’n anghenraid i mi gadw’r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond 1 Cor 4:19; Heb 6:3; Iago 4:15os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus.

22Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia.

23Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Gal 4:14Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.

24 1 Cor 1:12 Eithr rhyw Iddew, a’i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus.

25Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i’r Arglwydd, Pen 19:3heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig.

26A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a’i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.

27A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, 1 Cor 3:6a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras;

28Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help