1Pa fodd y dug yr Arglwydd gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o’r nefoedd, ac na chofiodd a’u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a’i thywysogion.
3Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch.
4Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â’i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint.
5Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda.
6Efe ei babell rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: difetha: am hynny y gwnaeth efe i’r rhagfur ac i’r mur alaru; cydlesgasant.
9Ei phyrth a soddasant i’r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd?
21Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf: Pen 3:43ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed.
22Gelwaist, megis ar ddydd uchel ŵyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
