1Yna holl feibion Israel a aethant allan; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw.
6A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a’i derniais hi, ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys yn gytûn fel un gŵr.
12A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi?
13Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, dŷ Dduw, a’r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.
32A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o’n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd.
33A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o’u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.
34A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a’r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt.
35A’r Arglwydd a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum mil ar hugain a channwr; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.
36Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea.
37A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.
38Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas.
39A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y cyntaf.
40A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o’r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd.
41Yna gwŷr Israel a droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt.
42Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt: a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.
43Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul.
44A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol.
45A hwy a droesant, ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon. A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bum mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr.
46A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol.
47Pen 21:3Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis.
48A gwŷr Israel a ddychwelsant ar feibion Benjamin, ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.