1 genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn.
3Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi Satan wrth ei ddeheulaw ef.
7Pan farner ef, eled yn euog; y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
12Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.
13 Job 18:19 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.
14 Exod 20:5 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef.
15Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel Job 18:17; Salm 34:16y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir:
16Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd.
17 Esec 35:6 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.
18Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn.
19Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol.
20Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.
21Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.
22Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn.
23Euthum Salm 102:11; 144:4fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir.
24Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster.
25Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, Salm 22:7siglent eu pennau.
26Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd:
27Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a’i gwnaethost.
28Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.
29Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl.
30Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.
31Oherwydd Salm 16:8; 73:23; 110:5; 121:5efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.