1Proffwyda hefyd, ni adawaf ohonot ond y chweched ran, ac a’th ddygaf i fyny o ystlysau y gogledd, ac a’th ddygaf ar fynyddoedd Israel:
3Ac a drawaf dy fwa o’th law aswy, a gwnaf i’th saethau syrthio o’th law ddeau.
4Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a’th holl fyddinoedd, a’r bobloedd sydd gyda thi: i bob rhyw aderyn, ac i fwystfilod y maes, y’th roddaf i’th ddifa.
5Ar wyneb y maes y syrthi; canys myfi a’i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
6Anfonaf hefyd dân ar Magog, ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
7Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy: a’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, y Sanct yn Israel.
8Wele, efe a ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd Dduw; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais.
9A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan, ac a gyneuant ac a losgant yr arfau, a’r darian a’r astalch, y bwa a’r saethau, a’r llawffon a’r waywffon; ie, losgant hwynt yn tân saith mlynedd.
10Ac ni ddygant goed o’r maes, ac ni thorrant ddim o’r coedydd; canys â’r arfau y cyneuant dân: a hwy a ysbeiliant eu hysbeilwyr, ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr, medd yr Arglwydd Dduw.
11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a’i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog.
12A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis, er mwyn glanhau y tir.
13Ie, holl bobl y tir a’u claddant; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y’m gogonedder, medd yr Arglwydd Dduw.
14A hwy a neilltuant wŷr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda’r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i’w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.
15A’r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog.
16Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona. Felly y glanhânt y wlad.
17Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwytaoch gig, ac yr yfoch waed.
18Cig y cedyrn a fwytewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear, hyrddod, ŵyn, a bychod, bustych, yn basgedigion Basan oll.
19Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o’m haberth a aberthais i chwi.
20Felly y’ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau, â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd Dduw.
21A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a’m llaw yr hon a osodais arnynt.
22A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o’r dydd hwnnw allan.
23Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf.
24Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt.
25Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd;
26Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd, a’u holl gamweddau a wnaethant i’m herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd.
27Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a’u casglu hwynt o wledydd eu gelynion, ac y’m yr hwn a’u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd, ac a’u cesglais hwynt i’w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno.
29Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd Joel 2:28; Act 2:17tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.