1Y wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi eto’n dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd.
2Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
20Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys. Pen 16:22Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd.
21Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: Mat 28:18; Ioan 17:18; Heb 3:1; 2 Tim 2:2megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi.
22Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Ysbryd Glân.
23Mat 16:19; 18:18Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd.
24Eithr Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn Pen 11:16a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu.
25Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
26Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyda hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a’r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.
27Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes yma dy fys, a gwêl fy nwylo; ac 1 Ioan 1:1estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadun, ond credadun.
28A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a’m Duw.
29Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: 1 Pedr 1:8bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
30 Pen 21:25 A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
31Luc 1:4Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.