Mathew 19 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —2 Crist yn iacháu y cleifion: 3 yn ateb y Phariseaid am ysgariad: 10 yn dangos pa bryd y mae priodas yn angenrheidiol: 13 yn derbyn plant bychain: 16 yn dysgu i’r gŵr ieuanc y modd i gael bywyd tragwyddol, 20 ac i fod yn berffaith: 23 yn dywedyd i’w ddisgyblion mor anodd ydyw i’r goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw; 27 ac yn addo gwobr i’r sawl a ymadawant â dim er mwyn ei ganlyn ef.

1A bu, cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos?

4Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd.

9Pen 5:32; Marc 10:11; Luc 16:18; 1 Cor 7:10, 11Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.

10Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.

11Ac efe a ddywedodd wrthynt, 1 Cor 7:2, 7, 9, 17Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

12Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac 1 Cor 7:32, 34; 9:5, 15y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.

13 Marc 10:13; Luc 18:15 Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt.

14A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys Pen 18:3eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.

15Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.

16 Marc 10:17; Luc 18:18 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Luc 10:25Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?

17Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.

18Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Exod 20:13; Deut 5:17Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth,

19Pen 15:4Anrhydedda dy dad a’th fam, a Lef 19:18; Pen 22:39; Rhuf 13:9; Gal 5:14; Iago 2:8Châr dy gymydog fel ti dy hun.

20Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?

21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, Pen 6:20; Luc 12:33; 16:9; 1 Tim 6:18, 19dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

22A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.

23Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â Marc 10:23; 1 Tim 6:9, 10goludog i mewn i deyrnas nefoedd.

24A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

25A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?

26A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond Jer 32:17; Sech 8:6; Luc 1:37; 18:27gyda Duw pob peth sydd bosibl.

27 Marc 10:28; Luc 18:28 Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, Pen 4:20; Luc 5:11nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?

28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, Pen 20:21; Luc 22:28, 29, 30; 1 Cor 6:2, 3; Dat 2:26eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

29A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe.

30Pen 20:16; Marc 10:31; Luc 13:30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help