1Yna Caniatâ i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti.
4A’r cenhadau a ddaethant i yn unfryd.
8A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion 2 Sam 24:9Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain.
9A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant.
10Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda.
11A bu drannoeth i Edrych Pen 31:11Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd.
12A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pen 10:27Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? Edrych Luc 19:27moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.
13A Saul a ddywedodd, 2 Sam 19:22Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw, y gwnaeth yr Arglwydd ymwared yn Israel.
14Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno.
15A’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, Pen 10:17gerbron yr Arglwydd yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr Arglwydd. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
