1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, a lefarodd wrth Moses.
10A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.
11Gen 32:30; Num 12:8; Deut 34:10A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i’r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell.
12A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Jer 1:5Mi a’th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.
13Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.
14Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti.
15Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma.
16Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly Pen 34:10myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.
17A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a’th adwaen wrth dy enw.
18Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant.
19Ac efe a ddywedodd, Pen 34:5, 6Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi Rhuf 9:15a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
20Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys Gen 32:30; Deut 5:24; Barn 13:22; Esa 6:5; Dat 1:16, 17ni’m gwêl dyn, a byw.
21Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.
22A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw, nes i mi fyned heibio.
23Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a’m tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.