Eseciel 12 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Rhith ac arwydd symudiad Eseciel, 8 yn dangos caethiwed Sedeceia. 17 Dychryn Eseciel yn dangos anghyfanhedd‐dra yr Iddewon. 21 Beio ar ryfygus ddihareb yr Iddewon. 26 Nid oedir y weledigaeth.

1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2Trigo yr wyt ti, fab dyn, yng nghanol offer caethglud, a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt; ie, muda o’th le dy hun i le arall yng ngŵydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar.

4A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngŵydd eu llygaid, fel dodrefn caethglud: a dos allan yn yr hwyr yng ngŵydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaethglud.

5Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur, a dwg allan trwy hwnnw.

6Ar dy ysgwydd y dygi yng ngŵydd eu llygaid hwynt, yn y tywyll y dygi allan: dy wyneb a guddi, fel na welych y ddaear: canys yn arwydd y’th roddais i dŷ Israel.

7Ac mi a wneuthum felly fel y’m gorchmynnwyd: dygais fy offer allan liw dydd, fel offer caethglud; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur â’m llaw: yn y tywyll y dygais allan, ar fy ysgwydd y dygais o flaen eu llygaid hwynt.

8A’r bore y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

9Ha fab dyn, oni ddywedodd tŷ Israel, y tŷ gwrthryfelgar, wrthyt, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur?

10Dywed di wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, I’r tywysog yn Jerwsalem y mae y baich hwn, ac i holl dŷ Israel y rhai sydd yn eu mysg.

11Dywed, Eich arwydd chwi ydwyf fi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy: mewn caethglud yr ânt i gaethiwed.

12A’r ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd‐dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd.

17Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

18Ha fab dyn, Pen 4:16bwytei dy fara dan grynu, a’th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal:

19A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytânt mewn gofal, a’u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o’i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi.

20A’r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir, a’r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd.

21A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

22Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, ad. 27; Pen 11:3; Amos 6:3; 2 Pedr 3:4gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth?

23Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf i’r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.

24Canys Pen 13:23ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn tŷ Israel.

25Canys myfi yw yr Arglwydd: mi a lefaraf, a’r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dŷ gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a’i gwnaf, medd yr Arglwydd Dduw.

26A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

27ad. 22Ha fab dyn, wele dŷ Israel yn dywedyd, Y weledigaeth a wêl efe fydd 2 Pedr 3:4wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell.

28Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid oedir dim o’m geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help