1A yr arwyddion a’r nerthoedd mawrion a wneid.
14A phan glybu’r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan:
15Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân.
16(Canys osodiad dwylo’r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian,
19Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân.
20Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian.
21Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw.
22Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, Dan 4:27; 2 Tim 2:25a faddeuir i ti feddylfryd dy galon.
23Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.
24A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Num 21:7; 1 Bren 13:6Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch.
25Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelsant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi’r Samariaid.
26Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua’r deau, i’r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd.
27Ac efe a gyfododd, ac a aeth. Ac wele, Seff 3:10gŵr o Ethiopia, eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, Ioan 12:20yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli;
28Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen y proffwyd Eseias.
29A dywedodd yr Ysbryd wrth Philip, Dos yn nes, a glŷn wrth y cerbyd yma.
30A Philip a redodd ato, ac a’i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?
31Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef.
32A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Esa 53:7Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau:
33Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear.
34A’r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae’r proffwyd yn dywedyd hyn? amdano’i hun, ai am ryw un arall?
35A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu.
36Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr. A’r eunuch a ddywedodd, Wele ddwfr; Pen 10:47beth sydd yn lluddias fy medyddio?
37A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â’th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mat 16:16; Ioan 6:69; 11:27; Pen 9:20; 1 Ioan 4:15; 5:5Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw.
38Ac efe a orchmynnodd sefyll o’r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i’r dwfr, Philip a’r eunuch; ac efe a’i bedyddiodd ef.
39A phan ddaethant i fyny o’r dwfr, 1 Bren 18:12; 2 Bren 2:16; Esec 3:12, 14Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr eunuch ef mwyach: ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen.
40Eithr Philip a gaed yn Asotus: a chan dramwy, efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.