Exodus 26 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Deg llen y tabernacl. 7 Yr un llen ar ddeg o flew geifr. 14 Y babell‐len o grwyn hyrddod. 15 Byrddau y tabernacl, gyda’u morteisiau a’u barrau. 31 Y wahanlen i’r arch. 36 Y gaeadlen i’r drws.

1 gywreinwaith y gwnei hwynt.

2Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni.

3Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd.

4A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad.

5Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.

6Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.

7A dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau’r tabernacl.

18A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu deau tua’r deau.

19A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno.

20A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, ugain ystyllen,

21A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

22Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.

23A dwy ystyllen a wnei i gonglau’r tabernacl, yn y ddau ystlys.

24A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant.

25A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,

27A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tua’r gorllewin.

28A’r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr.

29Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.

30A chyfod y tabernacl Pen 25:9, 40; Act 7:44; Heb 8:5wrth ei bortread, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

31A Pen 36:35gwna 2 Cron 3:14; Mat 27:51; Heb 9:3wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.

32A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.

33A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng Heb 9:2, 3y cysegr a’r cysegr sancteiddiolaf.

34Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf.

35A Heb 9:2gosod y bwrdd o’r tu allan i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu deau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du’r gogledd.

36A Pen 36:37gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith.

37A gwna i’r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a Pen 36:38gwisg hwynt ag aur; a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help