Numeri 28 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Bod yn rhaid cadw offrymau. 3 Y poethoffrwm gwastadol. 9 Yr offrwm ar y Saboth, 11 ar y lloerau newydd, 16 ar y Pasg: 26 yn nydd y blaenffrwythau.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, peraidd yn eu tymor.

3A dywed wrthynt, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol.

4Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr;

5A wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

7A’i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: Exod 29:40pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i’r Arglwydd, yn y cysegr.

8Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd‐offrwm y bore, a’i ddiod‐offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

9Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod‐offrwm.

10Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i ddiod‐offrwm.

11Ac 1 Sam 20:5ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl;

12A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd;

13A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

14A’u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.

15Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi’r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm.

16 Exod 12:18; Lef 23:5; Pen 9:3 ; Deut 16:1Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd.

17Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw.

18Ar Exod 12:16; Lef 23:7y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo.

19Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: ad. 31; Pen 29:8byddant gennych yn berffaith‐gwbl.

20Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi;

21Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen, o’r saith oen:

22Ac un bwch yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch.

23Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn.

24Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd‐aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm.

25Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.

26Ac Exod 23:16; 34:22; Lef 23:10; Deut 16:10ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.

27Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

28A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd;

29Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:

30Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch.

31Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, yr offrymwch hyn, (ad. 19byddant gennych yn berffaith‐gwbl,) ynghyd â’u diod‐offrwm.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help