1Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf.
2Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.
3 ni ragori di; canys offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.
6Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynulleidfa hwynt: canys diwreiddiasant gaer.
7Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulon fu: neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau’r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.
18ceinciau yn cerdded ar hyd mur.
23A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef.
24Er hynny arhodd ei Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:
25Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynorthwya, a’r Hollalluog, Deut 33:13yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth.
26Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
27Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr ysbail.
28Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.
29Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi Pen 15:15; 25:8a gesglir at fy mhobl: Pen 47:30cleddwch fi gyda’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad;
30Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, Pen 23:16yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.
31Pen 23:19; 25:9Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; Pen 35:29yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea.
32Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.
33Pan orffennodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.