Josua 20 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duw yn gorchymyn, 7 a phlant Israel yn ordeinio y chwe dinas noddfa.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Josua, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Exod 21:13; Num 35:6, 11, 14; Deut 19:2, 9Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses:

3Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed.

4A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt.

5Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen.

6Ac efe a drig yn y ddinas honno, Num 35:12, 25nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni.

7Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea, ym mynydd Nafftali, a Sichem ym mynydd Effraim, a Chaer‐arba, hon yw Hebron, ym mynydd Jwda.

8Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Deut 4:43; 1 Cron 6:78Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse.

9Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help