Salm 33 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 331 Bod yn rhaid moliannu Duw, am ei ddaioni, 6 am ei allu, 12 am ei ragluniaeth. 20 Ar Dduw y mae hyderu.

1Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, Salm 97:12yn yr Arglwydd: i’r rhai uniawn gweddus yw Salm 147:1mawl.

2Molwch yr Arglwydd â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant.

3 Salm 96:1; 98:1; 144:9; Esa 42:10; Dat 5:9 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus.

4Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb.

5 Salm 45:7 Efe a gâr gyfiawnder a barn: Salm 119:64o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn.

6 Gen 1:6, 7; Heb 11:3; 2 Pedr 3:5 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u Gen 2:1holl luoedd hwy Job 26:13trwy ysbryd ei enau ef.

7 Gen 1:9; Job 26:10; 38:8 Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau.

8Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.

9Canys Gen 1:3; Salm 148:5efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.

10 Esa 19:3 Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.

11 Job 23:13; Diar 19:21; Esa 46:10 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.

12 Salm 65:4; 144:15 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.

13 2 Cron 16:9; Job 28:24; Salm 11:4; 14:2 Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.

14O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.

15Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.

16 Salm 44:6 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.

17 Salm 147:10; Diar 21:31 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.

18 Job 36:7; Salm 34:15; 1 Pedr 3:12 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef, sef Salm 147:11ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;

19I waredu eu henaid rhag angau, ac Job 5:20; Salm 37:19i’w cadw yn fyw yn amser newyn.

20 Salm 62:1, 5; 130:6 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: Salm 115:9, 10, 11efe yw ein porth a’n tarian.

21Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.

22Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help