Salm 56 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 561 Dafydd, wrth weddïo ar Dduw o hyder ar ei air, yn cwyno rhag ei elynion: 9 yn datgan ei ymddiried yng ngair Duw, ac yn addo ei foliannu ef.I’r Pencerdd ar Jonath‐elem‐rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O Dduw Goruchaf.

3Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.

4 ad. 10, 11 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf; Salm 118:6; Esa 31:3; Heb 13:6nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.

6Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.

7A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd.

8Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: Mal 3:16onid ydynt yn dy lyfr di?

9Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi.

10 ad. 4 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.

11Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.

13Canys Salm 116:8gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron Duw Job 33:30yng ngoleuni y rhai byw?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help