Marc 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Angel yn mynegi atgyfodiad Crist i dair o wragedd. 9 Crist ei hun yn ymddangos i Mair Magdalen: 12 i ddau oedd yn myned i’r wlad: 14 yna i’r apostolion, 15 y rhai y mae efe yn eu hanfon allan i bregethu yr efengyl: 19 mae yn esgyn i’r nefoedd.

1Ac beraroglau, i ddyfod i’w eneinio ef.

2o’r wythnos, y daethant at y bedd, a’r haul wedi codi.

3A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd?

4(A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn.

5Ac i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon‐galedwch, am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi.

15Mat 28:19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.

16Ioan 3:18, 36Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: Ioan 12:48eithr y neb ni chredo a gondemnir.

17A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Luc 10:17; Act 5:16; 8:7; 16:18; 19:12Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac Act 2:4; 10:46; 19:6; 1 Cor 12:10, 28â thafodau newyddion y llefarant;

18Luc 10:19; Act 28:5Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; Act 9:17; 28:8ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.

19Ac felly yr Arglwydd, Act 1:2, 3wedi llefaru wrthynt, Luc 24:51a gymerwyd i fyny i’r nef, Salm 110:1ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.

20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, Act 14:3; Heb 2:4ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help