1Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran, Tyred, a gwêl.
2Ac mi a welais; ac wele Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; gwelw‐las: ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear.
9A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais uchel, gan ddywedyd, Edrych Sech 1:12Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?
11A Pen 3:4, 5; 7:9, 14gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd‐weision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau.
12Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; Joel 2:10, 31; 3:15; Mat 24:29; Act 2:20a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel gwaed;
13A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr.
14Esa 34:4A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a Jer 3:23; 4:24; Pen 16:20phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd.
15A brenhinoedd y ddaear, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen‐capteiniaid, a’r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, Esa 2:19a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau’r mynyddoedd;
16Hos 10:8; Luc 23:30; Pen 9:6Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen:
17Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
