1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma’r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,)
3A’ch tu gorllewin.
6A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.
7A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o’r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.
8O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod ystlys môr Cinereth tua’r dwyrain.
12A’r terfyn a â i waered tua’r Iorddonen; a’i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma’r tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch.
13A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.
14Pen 32:33; Jos 14:2, 3Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.
15Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua’r dwyrain a chodiad haul.
16Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
17Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Jos 14:1; 19:51Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun.
18Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.
19Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne.
20Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud.
21O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon.
22A Bucci mab Jogli, yn bennaeth o lwyth meibion Dan.
23O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse.
24Cemuel hefyd mab Sifftan, yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim.
25Ac Elisaffan mab Pharnach, yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon.
26Paltiel hefyd mab Assan, yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar.
27Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth dros lwyth meibion Aser.
28Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali, Pedahel mab Ammihud.
29Dyma y rhai a orchmynnodd yr Arglwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel, yn nhir Canaan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.