1Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.
2Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi.
3Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! Mawr oedd y pren a chadarn, a’i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i’w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear.
12Ei ganghennau oedd deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a’r adar o’i ganghennau.
15Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda’r bwystfilod yng ngwellt y ddaear.
16Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno.
17O ordinhad y gwyliedyddion y mae y peth hyn, a’r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd; fel y gwypo y rhai byw mai y Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a’i rhydd i’r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion.
18Dyma y breuddwyd a welais i Nebuchodonosor y brenin. Tithau, Beltesassar, dywed ei ddehongliad ef, oherwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas hysbysu y dehongliad i mi: eithr ti a elli; am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.
19Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, estyniad ar dy heddwch.
28Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin.
29Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon.
30Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?
31A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.
32A ad. 25thi a yrrir oddi wrth ddynion, a’th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y’th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb y mynno.
33Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a’i ewinedd fel ewinedd adar.
34Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua’r nefoedd, a’m gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod Salm 10:16; Pen 2:44; 7:14; Micha 4:7; Luc 1:33ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a’i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
35Esa 40:15, 17A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho, Job 9:12; Esa 45:9Beth yr wyt yn ei wneuthur?
36Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a’m hoywder a ddychwelodd ataf fi, a’m cynghoriaid a’m tywysogion a’m ceisiasant; felly y’m sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol.
37Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a’i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.