1Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd,
2Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd,
3Esra 3:12Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? Sech 4:10onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim?
4Eto yn awr Sech 8:9ymgryfha, Sorobabel, medd yr Arglwydd; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr Arglwydd, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd Arglwydd y lluoedd:
5Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aifft, felly Esa 63:11yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.
6Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; ad. 21; Heb 12:26Unwaith eto, ennyd fechan yw, a Joel 3:16mi a ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear, a’r môr, a’r sychdir;
7Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd Arglwydd y lluoedd.
8Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd Arglwydd y lluoedd.
9Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd Arglwydd y lluoedd.
10Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,
11Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Lef 10:11; Deut 33:10; Mal 2:7Gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,
12Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â’i gŵr a gyffwrdd â’r bara, neu â’r cawl, neu â’r gwin, neu â’r olew, neu â dim o’r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.
13A Haggai a ddywedodd, Os un a fo Num 19:11aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.
14Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Titus 1:15Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a’r hyn a aberthant yno, yn aflan.
15Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o’r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd;
16Er pan oedd y dyddiau hynny Pen 1:9; Sech 8:10pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o’r cafn, ugain a fyddai yno.
17Deut 28:22; 1 Bren 8:37; Amos 4:9Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, Pen 1:11yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.
18Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwn ac er cynt, o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd.
19A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a’r pomgranad, a’r pren olewydd, ni ffrwythasant: o’r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.
20A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis, gan ddywedyd,
21Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, ad. 6, 7; Heb 12:26Myfi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear;
22A Mat 24:7mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; Micha 5:10; Sech 4:6; 9:10ymchwelaf hefyd y cerbydau, a’r rhai a eisteddant ynddynt; a’r meirch a’u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd.
23Y diwrnod hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y’th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr Arglwydd, Can 8:6ac y’th wnaf fel sêl: canys mi a’th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.