Ioan 21 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Ei ddisgyblion yn adnabod Crist ar ei ail‐ymddangosiad, wrth y ddalfa fawr o bysgod: 12 yntau yn ciniawa gyda hwynt: 15 yn rhoddi gorchymyn mawr ar Pedr, i borthi ei ŵyn ef a’i ddefaid: 18 yn ei rybuddio ef o’i farwolaeth: 22 yn ceryddu ei brysurdeb ef ynghylch Ioan. 25 Y diben.

1Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd.

2Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes.

6Yntau a ddywedodd wrthynt, Bugeilia fy nefaid.

17Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, Pen 16:30ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid.

18Pen 13:36; Act 12:3, 4Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit.

19A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo 2 Pedr 1:14trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.

20A Phedr a drodd, ac a welodd Pen 13:23, 25; 20:2y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?)

21Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn?

22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi.

23Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?

24Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac Pen 19:35; 3 Ioan 12ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir.

25Pen 20:30Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, Amos 7:10nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help