1A bu yn nyddiau gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt.
3Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear‐jasub dy fab, wrth ymyl ym mhriffordd maes y pannwr:
4A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia:
5Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd,
6Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal.
7Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni saif, ac ni bydd hyn.
8Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl.
9Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.
10A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd,
11Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arnodd.
12Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd.
13A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw?
14Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; ac a eilw ei enw ef, Immanuel.
15Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da.
16o fewn y tir.
23A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd.
24Â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad.
25Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.