1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i piau.
6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, Pen 5:15gyda’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.
7A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.
8Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
9Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.)
10Exod 28:40, 41, 43Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded ef Pen 1:16gerllaw yr allor.
11A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, Pen 4:12i le glân.
12A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged Pen 3:3, 9, 14wêr yr aberth hedd arni.
13Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.
14 Pen 2:1 ; Num 15:4Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr Arglwydd, o flaen yr allor:
15A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm, ac o’i olew, a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm; a llosged ei Pen 2:2, 9goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.
16Pen 2:3A’r gweddill ohono a fwyty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyteir ef: Pen 10:12yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.
17Na phober ef trwy lefain. Num 18:9, 10Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: Pen 2:3peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd.
18Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; Exod 29:37; Pen 22:4, 5, 6pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
20Exod 29:2Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrymant i’r Arglwydd, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran Exod 16:36effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brynhawn.
21Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offryma ddarnau y bwyd‐offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.
22A’r offeiriad o’i feibion ef, Pen 4:3yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: Exod 29:25llosger y cwbl i’r Arglwydd.
23A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.
24Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
25Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Pen 4:2Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Pen 1:3, 5, 11; 4:24, 29, 33Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr Arglwydd: Pen 21:22sancteiddiolaf yw efe.
26Num 18:9Yr offeiriad a’i hoffrymo dros bechod, a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod.
27Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.
28A Pen 11:33thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.
29Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.
30Pen 4:7, 11, 12, 18, 21; 16:27; Heb 13:11Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.