1Ac yn y dyddiau hynny, bedwar mis o ddyddiau.
3A’i gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl, i ddywedyd yn deg wrthi hi, ac i’w throi adref; a’i lanc oedd gydag ef, a chwpl o asynnod. A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad: a phan welodd tad y llances ef, bu lawen ganddo gyfarfod ag ef.
4A’i chwegrwn ef, tad y llances, a’i daliodd ef yno; ac efe a dariodd gydag ef dridiau. Felly bwytasant ac yfasant, a lletyasant yno.
5A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore; yntau a gyfododd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw, Nertha dy galon â thamaid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith.
6A hwy a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau ynghyd, ac a yfasant. A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr, Bydd fodlon, atolwg, ac aros dros nos, a llawenyched dy galon.
7A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drodd ac a letyodd yno.
8Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd, Cysura dy galon, atolwg. A hwy a drigasant hyd brynhawn, ac a fwytasant ill dau.
9A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, efe a’i ordderch, a’i lanc; ei chwegrwn, tad y llances, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch dros nos, atolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore yfory i’ch taith, fel yr elych i’th babell.
10A’r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a’i ordderchwraig gydag ef.
11A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr, Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi.
12A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea.
13Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc, Tyred, a nesawn i un o’r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama.
14Felly y cerddasant, ac yr aethant: a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin.
15A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dŷ i letya.
16Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini.
17Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas: a’r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr ei di? ac o ba le y daethost?
18Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, i ystlys mynydd Effraim, o’r lle yr hanwyf: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr Arglwydd; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ.
19Y mae gennym ni wellt ac ebran hefyd i’n hasynnod; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn, ac i’r llanc sydd gyda’th weision: nid oes eisiau dim.
20A’r hen ŵr a ddywedodd, Tangnefedd i ti: bydded dy holl eisiau arnaf fi; mor ysgeler.
25Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch, ac a’i dug hi allan atynt hwy. A hwy a’i hadnabuant hi, ac a wnaethant gam â hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a’i gollyngasant hi ymaith.
26Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd.
27A’i harglwydd a gyfododd y bore, ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i’w daith: ac wele ei ordderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a’i dwy law ar y trothwy.
28Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn; a’r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w fangre.
29A phan ddaeth i’w dŷ, efe a gymerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch, ac Edrych 1 Sam 11:7a’i darniodd hi, ynghyd â’i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel.
30A phawb a’r a welodd hynny, a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni welwyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.