1A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,
2caethiwed.
3Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
4Lef 26:1; Deut 4:16; Salm 97:7Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.
5Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw Pen 34:14; Deut 6:15; Jos 24:19; Nahum 1:2eiddigus; Pen 34:7; Lef 20:5; Num 14:18, 33; 1 Bren 21:29; Job 5:4; 21:19; Salm 109:14; Esa 14:20, 21; 65:6, 7; Jer 2:9; 32:18yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
6Deut 7:9; Salm 89:34Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.
7Lef 19:12; Deut 5:11; Mat 5:33Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys Micha 6:11nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.
8Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef.
9Pen 23:12; 31:15; 34:21; Lef 23:3; Esec 20:12; Luc 13:14Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
10Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:
11Oherwydd mewn Gen 2:2chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.
12 Lef 19:3; Deut 5:16; Mat 15:4; Eff 6:2 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
13Mat 5:21; Rhuf 13:9Na ladd.
14Mat 5:27Na wna odineb.
15Na ladrata.
16Deut 19:16Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
17Act 20:33; Rhuf 7:7Na chwennych dŷ dy gymydog, Job 31:9na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.
18 Heb 12:18 A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr utgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.
19A dywedasant wrth Moses, Deut 5:27; 18:16; Gal 3:19, 20; Heb 12:19Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.
20A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.
21A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i’r Pen 19:16; 1 Bren 8:12tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.
22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai Deut 4:36; Neh 9:13o’r nefoedd y lleferais wrthych.
23Na wnewch Edrych 1 Sam 5:4, 5; 2 Bren 17:33; Esec 20:39; 43:8; Seff 1:4, 5; 2 Cor 6:14, 15, 16gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.
24Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a’th offrymau hedd, Lef 1:2dy ddefaid, a’th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf atat, ac y’th fendithiaf.
25Ond Deut 27:5; Jos 8:31os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi.
26Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i’m hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.