Deuteronomium 9 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Moses yn eu hannog, nad ymddiriedent yn eu cyfiawnder eu hunain: gan ddatgan eu hamryw wrthryfel hwynt.

1Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, Pen 1:28dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;

2Pobl fawr ac uchel, Num 13:22, 28meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac?

3Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di Pen 4:24; Heb 12:29yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt.

4Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Rhuf 11:6, 20; 1 Cor 4:4, 7Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu’r tir hwn: ond Gen 15:16am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di.

5Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni’r Gen 12:7; 13:15; 15:7; 17:8; 26:4; 28:13gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

6Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl Exod 32:9; 33:3; 34:9wargaled ydych.

7Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: Exod 14:11; 16:2; 17:2; Num 11:4; 20:2; 25:2o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd.

8Exod 32:4; Salm 106:19Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch difetha.

9Exod 24:12, 15Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna Exod 24:18; 34:28yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais.

10Exod 31:18A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, Exod 19:17; 20:1ar ddydd y gymanfa.

11A bu, ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r Arglwydd ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.

12A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Exod 32:7Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.

13A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl ad. 6; Pen 10:16; 31:27; 2 Bren 17:14wargaled ydynt.

14Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac Pen 29:20; Salm 9:5; 109:13a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy.

15A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.

16Exod 32:19Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi.

17A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylo, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid.

18A Salm 106:23syrthiais gerbron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef.

19(Canys ofnais rhag y soriant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.

20Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.

21Exod 32:20Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a’i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd.

22O fewn Num 11:1, 5Tabera hefyd, ac o fewn Exod 17:7Massa, ac o fewn Num 11:4, 34Beddau’r blys, yr oeddech yn digio’r Arglwydd.

23A Num 13:3; 14:1phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.

24Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi.

25A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi.

26Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aifft â llaw gref.

27Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:

28Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan ohoni, Exod 32:12; Num 14:16O eisiau gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch.

29Pen 4:20Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help