Y Pregethwr 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Am ufuddhau i frenhinoedd. 6 Rhaid yw dal ar ragluniaeth Duw. 12 Gwell yw y byd ar y duwiol mewn adfyd, nag ar yr annuwiol mewn hawddfyd. 16 Mor anchwiliadwy yw gweithredoedd Duw.

1Pwy sydd debyg i’r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth? bryd y bydd?

8Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu Job 14:5ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog.

9Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo.

10Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd.

11Salm 50:21; Esa 26:10Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.

12Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau Salm 37:11, 18, 19; Diar 1:32, 33; Esa 3:10, 11y bydd daioni i’r rhai a ofnant Dduw, y rhai a arswydant ger ei fron ef.

13Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron Duw.

14Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn Salm 73:14; Pen 7:15yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd.

15Yna mi a ganmolais lawenydd, am Pen 2:24; 3:12, 22; 5:18; 9:7nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul.

16Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear, (canys y mae ni wêl hun â’i lygaid na dydd na nos;)

17Yna mi a edrychais ar holl waith Duw, Job 5:9; Pen 3:11; Rhuf 11:33na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul: oblegid er i ddyn lafurio i geisio, eto nis caiff; ie, pe meddyliai y doeth fynnu gwybod, eto ni allai efe gael hynny.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help