1A ddifa ef heb achos?
4A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes.
5eto cadw ei hoedl ef.
7Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun.
8Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac Pen 42:6; Mat 11:21a eisteddodd yn y lludw.
9Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltithia Dduw, a bydd farw.
10Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau.
11A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod Pen 42:11i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro.
12A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a Neh 9:1; Galar 2:10; Esec 27:30thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd.
13Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
