Actau’r Apostolion 14 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 45. —1 Erlid Paul a Barnabas allan o Iconium. 8 Paul yn iacháu y dyn cloff yn Lystra: ac ar hynny y bobl yn tybied mai duwiau oeddynt hwy. 19 Llabyddio Paul. 21 Hwynt‐hwy yn myned trwy fagad o eglwysi, gan gadarnhau y disgyblion yn y ffydd, ac mewn dioddefgarwch: 26 ac wedi dychwelyd i Antiochia, yn mynegi yno beth a wnaethai Duw trwyddynt hwy.

1A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd.

2Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.

3Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelsant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,

22Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, Pen 11:23; 13:43 a’u cynghori i aros yn y ffydd, ac Luc 22:28, 29; Rhuf 8:17; 2 Tim 2:11; 3:12mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.

23Ac wedi Titus 1:5ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.

24Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia.

25Ac wedi pregethu’r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia:

26Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, Pen 13:1, 3o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant.

27Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, Pen 15:4, 12adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef 1 Cor 16:9; 2 Cor 2:12agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd.

28Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help