Josua 14 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

2 Y naw llwyth a hanner i gael eu hetifeddiaeth wrth goelbren. 6 Caleb trwy ragorfraint yn cael Hebron.

1Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan, Num 34:17y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy i’w hetifeddu.

2Num 26:55; 33:54; 34:13Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.

3Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;

4Canys Gen 48:5; 1 Cron 5:1, 2meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir, Num 35:2; Jos 21:2ond dinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid, ac i’w golud.

5Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.

6Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne Num 32:12y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost Num 14:24y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades‐barnea.

7Mab deugain mlwydd oeddwn i pan Num 13:6; 14:6anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades‐barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon.

8Ond Num 13:31, 32fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto Num 14:24myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw.

9A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau Deut 11:24; Jos 1:3y bydd y wlad Edrych Num 13:22y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw.

10Ac yn awr, wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw, Num 14:30fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain.

11Edrych Deut 34:7 Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.

12Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod Num 13:28, 32, 33yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.

13A Josua a’i bendithiodd ef, ac Pen 15:13; Barn 1:20; Edrych Jos 21:11, 12; 1 Cron 6:55, 56a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth.

14Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl Arglwydd Dduw Israel.

15Ac Gen 23:2; Jos 15:13enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. Pen 11:23A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help