1A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;
2Ac a ddywedodd wrthynt, a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.
22A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a’i dysgodd hi i feibion Israel.
23Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Jos 1:6Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.
24A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;
25Yna y gorchmynnodd Moses i’r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, gan ddywedyd,
26Edrych 2 Bren 22:8Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn.
27Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a’th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw, gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?
28Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, Pen 32:1ac y cymerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.
29Pen 32:5Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o’r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg Gen 49:1yn y dyddiau diwethaf; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo.
30A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu diwedd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
