Barnwyr 21 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y bobl yn galaru am ddinistr Benjamin; 8 a thrwy ddifetha Jabes Gilead, yn cael iddynt bedwar cant o wragedd: 16 ac yn eu cynghori hwynt i osod ar y gwyryfon oedd yn dawnsio yn Seilo.

1A gwŷr Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni ddyry neb ohonom ei ferch i Benjaminiad yn wraig.

2A daeth y bobl i dŷ Dduw, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gerbron Duw, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant ag wylofain mawr:

3Ac a ddywedasant, O Arglwydd Dduw Israel, paham y bu y peth hyn yn Israel, fel y byddai heddiw un llwyth yn eisiau yn Israel?

4A thrannoeth y bobl a foregodasant, ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd.

5A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda’r gynulleidfa at yr Arglwydd? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr Arglwydd i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau.

6A meibion Israel a edifarhasant oherwydd Benjamin eu brawd: a dywedasant, Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel:

7Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i’r Arglwydd, na roddem iddynt yr un o’n merched ni yn wragedd?

8Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr Arglwydd i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll, at y gynulleidfa.

9Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead.

10A’r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a’r plant.

11Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: orweddodd gyda gŵr.

12A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i’r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan.

13A’r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt.

14A’r Benjaminiaid a ddychwelsant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.

15A’r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, oherwydd i’r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.

16Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin?

17Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i’r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel.

18Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin.

19Yna y dywedasant, Wele, y mae gŵyl i’r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i’r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus.

20Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd:

21Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan Edrych Exod 15:20i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin.

22A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog.

23A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o’r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelsant i’w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt.

24A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw, bob un at ei lwyth, ac at ei deulu; ac a aethant oddi yno bob un i’w etifeddiaeth.

25Pen 17:6; 18:1; 19:1Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help