1Ac dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo’r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?
9Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymdogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhewch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.
10Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.
11Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:
12A’r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da. Ac efe a rannodd iddynt fywyd.
13Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon.
14Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, y cododd newyn mawr trwy’r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau.
15Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a’i hanfonodd ef i’w feysydd i borthi moch.
16Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch; ac ni roddodd neb iddo.
17A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?
18Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau;
19Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision cyflog.
20Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A Act 2:39; Eff 2:13, 17phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd.
21A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, Salm 51:4ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fab i ti.
22A’r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:
23A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen.
24Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
25Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.
26Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.
27Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a’th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.
28Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef.
29Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion:
30Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.
31Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.
32Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.